Leviticus 18

Rhyw

1Dyma'r Arglwydd yn dweud wrth Moses: 2“Dywed wrth bobl Israel:

“Fi ydy'r Arglwydd eich Duw chi.
3Peidiwch gwneud yr un fath â phobl yr Aifft, ble roeddech chi'n arfer byw. Na'r un fath â phobl Canaan, ble dw i'n mynd â chi. Peidiwch dilyn eu harferion nhw. 4Fi ydy'r Arglwydd eich Duw chi. Rhaid i chi ddilyn fy rheolau i, a gwneud be dw i'n ddweud wrthoch chi. 5Byddwch yn ufudd a chadw fy rheolau i. Y rhai sy'n gwneud y pethau yma sy'n cael byw go iawn. Fi ydy'r Arglwydd.

6“Paid cael rhyw gyda rhywun sy'n perthyn yn agos i ti. 7Paid amharchu dy dad drwy gael rhyw gyda dy fam. Dy fam di ydy hi! 8A paid amharchu dy dad drwy gael rhyw gyda dy lysfam, gwraig dy dad. 9Paid cael rhyw gyda dy chwaer neu dy hanner chwaer – sdim ots ble mae hi wedi ei geni. 10Paid cael rhyw gyda phlentyn dy fab neu dy ferch. Maen nhw'n perthyn yn agos i ti! 11Paid cael rhyw gyda merch dy lysfam. 12Paid cael rhyw gyda dy fodryb, chwaer dy dad. Mae hi'n berthynas agos i dy dad. 13Paid cael rhyw gyda dy fodryb, chwaer dy fam. Mae hi'n berthynas agos i dy fam. 14Paid amharchu dy ewyrth, brawd dy dad, drwy gael rhyw gyda'i wraig. Dy fodryb di ydy hi! 15Paid cael rhyw gyda dy ferch-yng-nghyfraith. Gwraig dy fab di ydy hi, a dwyt ti ddim i gael rhyw gyda hi. 16Paid cael rhyw gyda gwraig dy frawd. Hi ydy perthynas agosaf dy frawd. 17Paid cael rhyw gyda merch neu wyres unrhyw wraig wyt ti wedi cael rhyw gyda hi yn y gorffennol. Maen nhw'n perthyn yn agos i'r wraig honno, ac mae gwneud peth felly yn gwbl ffiaidd. 18Paid achosi ffrae drwy briodi chwaer dy wraig, a chael rhyw gyda hi, pan mae dy wraig yn dal yn fyw.

19“Paid cael rhyw gyda gwraig pan mae hi'n cael ei hystyried yn ‛aflan‛ am ei bod yn diodde o'r misglwyf. 20Paid cael rhyw gyda gwraig rhywun arall. Mae gwneud peth felly'n dy wneud di'n ‛aflan‛.

21“Paid rhoi un o dy blant i'w losgi'n fyw i'r duw Molech. Mae gwneud peth felly yn sarhau enw Duw. Fi ydy'r Arglwydd. 22Dydy dyn ddim i gael rhyw gyda dyn arall. Mae hynny'n beth ffiaidd i'w wneud. 23Paid cael rhyw gydag anifail. Mae gwneud peth felly'n dy wneud di'n aflan. Rhaid i wraig beidio rhoi ei hun i anifail i gael rhyw gydag e. Mae'n beth ffiaidd, annaturiol i'w wneud.

24“Peidiwch gwneud eich hunain yn ffiaidd drwy wneud pethau fel yna. Dyna sut mae'r bobloedd dw i'n mynd i'w gyrru allan o'ch blaen chi wedi llygru eu hunain. 25Mae'r tir ei hun wedi cael ei wneud yn aflan yn fy ngolwg i. Dyna pam dw i'n eu cosbi nhw. Bydd y tir yn eu chwydu nhw allan. 26Byddwch yn ufudd, a chadw fy rheolau i. Peidiwch gwneud unrhyw un o'r pethau ffiaidd maen nhw'n eu gwneud; neb ohonoch chi – pobl Israel nag unrhyw un arall sy'n byw gyda chi. 27(Roedd y bobl oedd yn byw yn y wlad o'ch blaen chi yn gwneud y pethau yma i gyd, ac roedd hynny wedi gwneud y wlad yn aflan yn fy ngolwg i.) 28Os gwnewch chi'r un pethau, bydd y tir yn eich chwydu chi allan hefyd yr un fath. 29Pwy bynnag sy'n gwneud unrhyw un o'r pethau ffiaidd yma, bydd e'n cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Dduw 30Gwnewch beth dw i'n eich siarsio chi i'w wneud, a peidio gwneud y pethau ffiaidd sy'n cael eu gwneud gan y bobl sydd yno o'ch blaen chi. Peidiwch gwneud y pethau sy'n eich gwneud chi'n aflan yn fy ngolwg i. Fi ydy'r Arglwydd eich Duw chi.”

Copyright information for CYM